Bernir bod estyniad neu ychwanegiad i’ch tŷ yn waith datblygu a ganiateir, nad oes angen cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer, cyhyd â’i fod yn cydymffurfio ag amodau a therfynau. Mae gwahanol derfynau ac amodau ar gyfer estyniadau yn y cefn neu estyniadau ar yr ochr, ac ar gyfer estyniadau un llawr ac estyniadau o fwy nag un llawr.
Pob Estyniad
- Nid oes modd adeiladu unrhyw estyniad o flaen prif ochr eich tŷ.
- Ni ddylai estyniad orchuddio dros hanner y tir o amgylch y tŷ gwreiddiol.
- Ni ddylai estyniad fod yn uwch na rhan uchaf to’r tŷ gwreiddiol.
- Ni ddylai’r estyniad fod yn uwch na bargod y tŷ gwreiddiol.
- Os yw’r estyniad o fewn 2 fetr i ffin eich tŷ, ni ddylai bargod yr estyniad fod yn fwy na 3 metr.
- Os yw’r estyniad o fewn 2 fetr i ffin eich tŷ, ni ddylai fod yn uwch na 4 metr.
- Rhaid i’r deunyddiau yn yr estyniad fod mor debyg ag sy’n bosibl i’r rhai yn y tŷ gwreiddiol.
- Ni cheir adeiladu ferandas, platfformau uchel, terasau to na balconi. Caniateir balconi ‘Juliet’ heb blatfform, nad yw’n ymestyn dros 300mm o’r estyniad, ac nad yw o fewn 10.5 metr i unrhyw ffin gyferbyn ag ochr y tŷ, ac nad yw ar flaen eich tŷ. Ni chaniateir ‘shutters’ ar flaen eich tŷ.
Estyniadau un llawr yn y cefn
- Ni ddylai estyniadau un llawr ymestyn dros 4 metr heibio i wal gefn y tŷ, na bod dros 4 metr o uchder.
Estyniadau mwy nag un llawr yn y cefn
- Ni ddylai rhan waelod yr estyniad ymestyn dros 4 metr heibio i wal gefn y tŷ.
- Ni ddylai rhan uchaf yr estyniad ymestyn dros 3 metr heibio i wal gefn y tŷ.
- Rhaid i’r pellter rhwng wal gefn yr estyniad a’r ffin yng nghefn y tŷ, sef y ffens neu wal yn yr ardd fel rheol, fod yn o leiaf 10.5 metr
- Rhaid i unrhyw ffenestr ar y llawr uchaf ar ochr yr estyniad fod mewn gwydr wedi’i gymylu, heb fod modd ei agor, oni bai bod y ffenestr 1.7 metr yn uwch na lefel y llawr
- Dylai goleddf to’r estyniad gyfateb, cyn belled ag y bo modd, i oleddf y to presennol
- Ni chaniateir estyniadau mwy nag un llawr yn y cefn mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol na Safle Treftadaeth y Byd
Estyniadau un llawr ar yr ochr
- Ni ddylai estyniadau un llawr ar yr ochr fod yn agosach at y briffordd nag unrhyw wal ar ochr y tŷ presennol, neu dylai fod o leiaf 10.5 metr oddi wrth y briffordd.
- Ni ddylai estyniad un llawr fod dros 4 metr o uchder
- Ni ddylai lled rhan lletaf y tŷ fod dros 50% yn fwy na rhan lletaf y tŷ presennol
- Pan fo’r tŷ mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol neu Safle Treftadaeth y Byd, ni ddylai’r estyniad ymestyn dros 3 metr o ochr y tŷ a dylai gael ei osod o leiaf 1 metr yn ôl o brif ochr y tŷ
Estyniadau mwy nag un llawr ar yr ochr
- Ni ddylai estyniad mwy nag un llawr ar yr ochr fod yn agosach at y briffordd nag unrhyw wal ar ochr y tŷ presennol, neu dylai fod o leiaf 10.5 metr oddi wrth y briffordd
- Ni chaniateir estyniad o fewn 10.5 metr i ffin ochr y tŷ
- Rhaid i’r estyniad gael ei osod o leiaf 1 metr yn ôl o brif ochr y tŷ
- Ni ddylai lled rhan lletaf y tŷ fod dros 50% yn fwy na rhan lletaf y tŷ presennol
- Rhaid i unrhyw ffenestr ar y llawr uchaf ar ochr yr estyniad fod mewn gwydr wedi’i gymylu, heb fod modd ei agor, oni bai bod y ffenestr 1.7 metr yn uwch na lefel y llawr
- Dylai goleddf to’r estyniad gyfateb, cyn belled ag y bo modd, i oleddf y to presennol
- Ni chaniateir estyniadau mwy nag un llawr yn y cefn mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol na Safle Treftadaeth y Byd
Nodwch: mae’r lwfansau datblygu a ganiateir a ddisgrifir yma’n berthnasol i dai ac nid i fflatiau, maisonettes neu adeiladau eraill. Mae canllawiau ar fflatiau a maisonettes ar gael yma.
Gosod simnai, ffliw neu bibell garthion ac awyru newydd sbon, eu newid neu osod rhai newydd yn lle hen rai: Cliciwch yma i ddarllen cyfarwyddyd ynghylch y drefn ar gyfer gwaith datblygu a ganiateir dan Ddosbarth G y drefn.
* Ystyr y term "tŷ gwreiddiol" yw’r tŷ fel y cafodd ei adeiladu gyntaf neu fel yr oedd ar 1 Gorffennaf 1948 (os cafodd ei adeiladu cyn y dyddiad hwnnw). Er nad ydych chi efallai wedi adeiladu estyniad i’r tŷ, gallai perchennog blaenorol fod wedi gwneud hynny.
* Mae tir dynodedig yn cynnwys Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ardaloedd cadwraeth a Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Ymwadiad
Canllaw rhagarweiniol yw hwn, ac nid yw’n ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth gyfreithiol. Mae’r arweiniad yn ymwneud â’r drefn gynllunio ar gyfer Cymru. Gall y polisi yn Lloegr fod yn wahanol. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â’ch awdurdod cynllunio lleol.