Mae’r rheolau ynghylch adeiladau allan yn berthnasol i siediau, tai gwydr a garejis yn ogystal ag adeiladau atodol eraill mewn gerddi, megis pyllau nofio, pyllau, cabanau sawna, cytiau cŵn, lleoedd amgaeëdig (gan gynnwys cyrtiau tennis) a llawer o wahanol fathau o strwythurau eraill sydd at ddiben sy’n gysylltiedig â mwynhau’r tŷ annedd.
Mae rheolau eraill yn ymwneud â gosod dysgl lloeren, codi annedd newydd neu godi neu ddarparu tanciau storio tanwydd.
Caiff adeiladau allan eu hystyried yn waith datblygu a ganiateir, nad oes angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer, cyhyd â’u bod yn cydymffurfio â’r amodau a’r terfynau canlynol:
Lleoli
- Ni ddylai dros hanner y tir o amgylch y "tŷ gwreiddiol" gael ei orchuddio gan adeiladau allan
- Nid oes modd gosod adeiladau allan o flaen llinell adeiladu’r prif ochr
- Ni ddylai adeiladau allan ymestyn y tu hwnt i ochr y tŷ na bod yn agosach i’r briffordd na’r tŷ presennol, neu dylai fod o leiaf 5 metr o’r briffordd
- Ni ddylai unrhyw ran o’r datblygiad o fewn 2 fetr i ffin y tŷ fod yn uwch na 2.5 metr
- Ni ddylai unrhyw ran o’r datblygiad o fewn 2 fetr i’r tŷ fod yn uwch na 1.5 metr
Uchder
- Ni ddylai adeiladau allan fod yn uwch nag un llawr
- Ni ddylai adeilad allan fod yn uwch na 4 metr pan fo gan yr adeilad fwy nag un goleddf (ee to goleddf ddeuol neu do ‘hipped’)
- Ni ddylai fod yn uwch na 3 metr pan fo gan adeilad un goleddf neu do o fath arall
- Ni ddylai adeiladau to fflat fod yn uwchna 2.5 metr o uchder
- Ni ddylai bargod yr adeilad fod yn uwch na 2.5m
Adeiladau Rhestredig
- Bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio i adeiladu neu addasu unrhyw adeilad allan o fewn cwrtil adeilad rhestredig
Feranda, balconi a phlatform uchel
- Ni chaniateir feranda, balconi na phlatfform uchel lle byddai unrhyw ran o’r datblygiad yn ymestyn dros 300mm uwch wyneb y tir islaw
* Ystyr y term "tŷ gwreiddiol" yw’r tŷ fel y cafodd ei adeiladu gyntaf neu fel yr oedd ar 1 Gorffennaf 1948 (os cafodd ei adeiladu cyn y dyddiad hwnnw). Er nad ydych chi efallai wedi adeiladu estyniad i’r tŷ, gallai perchennog blaenorol fod wedi gwneud hynny.
Nodwch: mae’r lwfansau datblygu a ganiateir a ddisgrifir yma’n berthnasol i dai ac nid i fflatiau, maisonettes neu adeiladau eraill. Cliciwch yma i weld cyfarwyddyd ynghylch fflatiau a maisonettes.
Ymwadiad
Canllaw rhagarweiniol yw hwn, ac nid yw’n ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth gyfreithiol. Mae’r arweiniad yn ymwneud â’r drefn gynllunio ar gyfer Cymru. Gall y polisi yn Lloegr fod yn wahanol. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â’ch awdurdod cynllunio lleol.