Mae'r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio bellach yn cael eu cyflwyno ar-lein. Gallwch gyflwyno cais i bob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr drwy’r Porth Cynllunio.
Yn ystod gwanwyn 2018, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau cynllunio i gefnogi ei gwasanaeth gwneud cais. Gallwch weld y canllawiau hyn drwy fynd i'w gwefan.
Mae’r manteision yn syml:
System gyflym a hawdd i'w defnyddio
Cymorth a chyngor fesul cam
Atodi cynlluniau a darluniau
Arbed amser ac arian
Anfon cais i'r awdurdod lleol ar unwaith
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am sut i wneud cais a'r broses o wneud penderfyniad yn y canllawiau isod.