Y broses gwneud penderfyniadau

Amodau a rhwymedigaethau

Amodau

Yn lle gwrthod cais yn gyfan gwbl, gall Awdurdod Cynllunio Lleol roi caniatâd gydag amodau, er enghraifft amodau sy’n cyfyngu ar yr hyn y gallwch ei wneud ar y safle neu sy’n mynnu eich bod yn cael cymeradwyaeth benodol ar gyfer agweddau ar y datblygiad, megis y deunyddiau y dylid eu defnyddio, cyn y gallwch fynd yn eich blaen. Rhaid i’r awdurdod roi rhesymau dros yr amodau.

Os nad ydych yn barod i dderbyn yr amodau, gallwch drafod y sefyllfa â’r swyddog cynllunio a allai awgrymu ffyrdd o oresgyn gwrthwynebiadau’r awdurdod, neu gallwch apelio yn erbyn yr amod/amodau nad ydych yn cytuno ag ef/â nhw.

Rhwymedigaethau cynllunio a chytundebau

Mae rhwymedigaethau cynllunio, a elwir hefyd yn gytundebau Adran 106 (sy’n seiliedig ar yr adran honno o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990), yn gytundebau preifat rhwng awdurdodau lleol a datblygwyr, a gallant fod yn gysylltiedig â chaniatâd cynllunio er mwyn sicrhau bod datblygiad, a fyddai fel arall yn annerbyniol o safbwynt cynllunio, yn ddatblygiad derbyniol. Y tir, yn hytrach na’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n datblygu’r tir, sy’n rhwym wrth Gytundeb Adran 106 – felly mae hynny’n rhywbeth y bydd angen i unrhyw berchnogion yn y dyfodol ei ystyried.

Mae polisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio rhwymedigaethau cynllunio wedi’i nodi yng Nghylchlythyr 13/97 ynglŷn â Rhwymedigaethau Cynllunio. Rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried y canllawiau hyn wrth wneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio, a rhaid bod ganddynt resymau da dros weithredu’n groes i’r canllawiau.

Defnyddir rhwymedigaethau cynllunio at dri diben:

  • I bennu natur y datblygiad (er enghraifft, mynnu bod cyfran benodol o dai’n fforddiadwy),
  • I wneud iawn am unrhyw golled neu ddifrod a gaiff ei greu gan ddatblygiad (er enghraifft, colli man agored), neu
  • I liniaru effaith datblygiad (er enghraifft, drwy gynyddu’r ddarpariaeth o ran trafnidiaeth gyhoeddus). Rhaid i rwymedigaethau cynllunio fod yn uniongyrchol berthnasol i’r datblygiad a gynigir.

Ym mis Ebrill 2010 daeth nifer o fesurau yn y Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol i rym. Roedd y newidiadau hynny’n cyfyngu ar y defnydd y gellir ei wneud o rwymedigaethau cynllunio ac yn egluro’r berthynas rhwng rhwymedigaethau cynllunio a’r Ardoll Seilwaith Cymunedol – mae’r ardoll yn dâl lleol newydd y gall awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr ddewis ei godi ar ddatblygiadau newydd yn eu hardal er mwyn ariannu seilwaith. Ceir tri phrif newid sy’n lleihau’r defnydd o rwymedigaethau cynllunio:

  • Rhaid i rwymedigaethau cynllunio fodloni tri phrawf statudol newydd o 6 Ebrill 2010 ymlaen.
  • Ni all rhwymedigaethau cynllunio gael eu defnyddio i godi tâl ar ddatblygwyr ddwy waith am seilwaith. Pan fydd awdurdod wedi cyflwyno’r ardoll yn ei ardal leol, ni ddylai ddefnyddio rhwymedigaethau i ariannu seilwaith y mae’n bwriadu ei ariannu gan ddefnyddio’r ardoll.
  • Ni fydd rhwymedigaethau cynllunio yn sail bellach ar gyfer tariff. Pan fydd awdurdod yn cyflwyno’r ardoll yn ei ardal, neu cyn hynny os yw ar ôl mis Ebrill 2014, ni fydd modd mwyach iddo grynhoi mwy na phum cyfraniad ar gyfer seilwaith y gellir ei ariannu drwy’r ardoll.

Fodd bynnag, bydd rhwymedigaethau cynllunio’n parhau i chwarae rôl bwysig o safbwynt sicrhau bod datblygiadau unigol yn dderbyniol. Bydd tai fforddiadwy’n parhau i gael eu darparu drwy rwymedigaethau cynllunio’n hytrach na’r ardoll. Gall awdurdodau lleol barhau hefyd i grynhoi cyfraniadau ar gyfer mesurau nad oes modd eu hariannu drwy’r ardoll.

Gweld gwybodaeth bellach am yr Ardoll Seilwaith Cymunedol.