Safonau gofynnol yw Rheoliadau Adeiladu ar gyfer gwaith dylunio, adeiladu a newid i bron bob adeilad. Cânt eu datblygu gan Lywodraeth y DU a’u cymeradwyo gan Senedd y DU. Sut i gael cymeradwyaeth Bydd y modd y byddwch yn cael cymeradwyaeth yn dibynnu ar b’un a fyddwch yn dewis defnyddio gwasanaeth rheoli adeiladu awdurdod lleol neu wasanaeth arolygydd cymeradwy. Dogfennau Cymeradwy Mae fersiynau diweddaraf y dogfennau cymeradwy ar gyfer yr 14 “Rhan” dechnegol sy’n perthyn i ofynion y Rheoliadau Adeiladu i’w gweld yma. Dyfarniadau ac Apeliadau Mae dyfarniadau ac apeliadau’n ddwy weithdrefn sy’n golygu bod Gweinidogion Cymru yn Llywodraeth Cymru, neu’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol yn Lloegr, yn gallu dyfarnu mewn anghydfodau.