Cyfyngiadau cynllunio
Cyfyngiadau cynllunio
Beth yw cyfyngiadau cynllunio?
Cyfyngiadau cynllunio yw dynodiadau a osodir ar ardaloedd penodedig o dir a all effeithio neu gyfyngu ar ba ddatblygiad a dybir yn dderbyniol.
Mae'n hollbwysig deall pa gyfyngiadau sy'n gymwys i safle yn gynnar yn y broses gynllunio er mwyn deall a yw prosiect yn hyfyw neu a fydd angen ystyried unrhyw ofynion ychwanegol.
Cyfyngiadau cynllunio cyffredin
Parth Perygl Llifogydd
Mae Parthau Llifogydd wedi'u dynodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn seiliedig ar y risg y bydd ardal o dir yn cael ei gorlifo o afonydd neu'r môr.
Os bydd datblygiad o fewn rhai dosbarthiadau o Barth Llifogydd, yna dylid darparu asesiad o berygl llifogydd i gefnogi cais am ganiatâd cynllunio.
Rhagor o wybodaeth am asesu perygl llifogydd1. (Yn Seasneg)
Llais Las
Mae'r Llain Las a'r Lletemau Glas wedi'u dynodi'n arbennig yn ardaloedd cefn gwlad sydd wedi'u diogelu rhag y rhan fwyaf o fathau o ddatblygiad.
Mae'n bodoli i helpu i atal ymlediad trefol, gwarchod cymeriad aneddiadau sy'n bodoli eisoes ac annog datblygiadau o fewn ardaloedd adeiledig presennol.
Cyfarwyddyd Erthygl 4
Mae cyfarwyddiadau 'Erthygl 4' yn cael eu gweithredu gan awdurdod cynllunio lleol i ddileu hawliau datblygu a ganiateir penodedig yn yr ardal.
Pan fydd cyfarwyddyd 'Erthygl 4' ar waith, bydd yn ofynnol i chi gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer gwaith nad oes angen un ar ei gyfer fel arfer.
Gwneir cyfarwyddiadau Erthygl 4 pan fyddai cymeriad ardal o bwysigrwydd cydnabyddedig mewn perygl. Maent yn fwyaf cyffredin mewn ardaloedd cadwraeth.
Ardal gadwraeth
Mae ardal gadwraeth yn ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, y mae'n ddymunol gwarchod neu wella ei chymeriad neu ei golwg.
Os yw eich eiddo mewn ardal gadwraeth, efallai y bydd angen caniatâd ychwanegol arnoch i wneud gwaith sy'n cynnwys dymchwel adeilad neu gatiau, ffensys, waliau neu reiliau.
Yn dibynnu ar natur y gwaith arfaethedig, efallai y bydd angen gwybodaeth ychwanegol megis Datganiad Effaith Treftadaeth neu Ddatganiad Dylunio a Mynediad.
Adeilad rhestredig
Adeilad rhestredig yw adeilad neu strwythur arall o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sydd wedi'i gynnwys ar restr statudol ac wedi cael ei raddio (I, II* neu II) gan Weinidogion Cymru a Cadw.
Mae adeilad rhestredig yn cynnwys:
- Yr adeilad ei hun
- Unrhyw wrthrych neu strwythur sydd wedi'i osod arno
- Unrhyw wrthrych neu strwythur sydd wedi bod o fewn cwrtil yr adeilad ers 1948
Os yw eich eiddo yn adeilad rhestredig, yna bydd angen caniatâd cynllunio ychwanegol arnoch i wneud gwaith arno.
Tirweddau Cenedlaethol (a elwir hefyd yn: Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol)
Mae Tirweddau Cenedlaethol yn ardaloedd o dir a ddynodwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i warchod, cadw a gwella harddwch naturiol y tir. Rhoddir pwyslais mawr ar warchod harddwch naturiol Tirweddau Cenedlaethol ym Mholisi Cynllunio Cymru drwy roi'r statws amddiffyniad uchaf iddynt rhag datblygiadau amhriodol.
Parciau Cenedlaethol
Mae Parciau Cenedlaethol yn ardaloedd o harddwch eithriadol sydd wedi'u dynodi i warchod yr ardal. Maent yn cael y statws amddiffyniad uchaf rhag datblygiadau amhriodol yn Polisi cynllunio Cymru.
Heneb Gofrestredig
Heneb Gofrestredig yn strwythurau o ddiddordeb neu arwyddocâd hanesyddol arbennig, ac maent yn amrywio o gloddweithiau i adfeilion i weddillion claddedig. Mae llawer ohonynt wedi'u cofrestru'n safleoedd archaeolegol o bwys cenedlaethol.
Pe bai datblygiad arfaethedig yn effeithio ar unrhyw heneb mewn unrhyw ffordd, dylid ceisio cyngor gan Cadw cyn gynted â phosibl.
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn ardal ddynodedig o dir, sy'n cael ei gwarchod i gadw rhywogaethau, cynefinoedd a nodweddion naturiol sy'n brin neu mewn perygl. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn sicrhau bod nodweddion SoDdGA yn cael eu cadw a'u gwella. Rhaid osgoi unrhyw ddatblygiad diangen, yn bennaf datblygiad nad yw ar gyfer rheoli'r safle.
Safleoedd Treftadaeth y Byd
Ystyrir Safleoedd Treftadaeth y Byd yn safle o werth cyffredinol eithriadol fel y'i dynodwyd gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn amddiffyn Safleoedd Treftadaeth y Byd, gan eu gwneud nhw a'u parth clustogi yn ystyriaeth gynllunio berthnasol.
- https://www.planningportal.co.uk/permission/commercial-developments/understanding-and-assessing-flood-risk/research-the-development-site