Telerau ac amodau
Telerau ac Amodau'r Gwasanaeth Talu
Diweddarwyd ddiwethaf: Gorffennaf 2025
Gwybodaeth bwysig
Darllenwch y datganiad hwn o delerau ac amodau (y ‘Datganiad’) a'r Broses Ad-dalu1 gysylltiedig yn ofalus. Mae'r rhain yn creu contract rhwymol rhyngoch chi a ni pan fyddwch yn defnyddio a/neu yn prynu ein Gwasanaethau drwy PortalPlanQuest (‘PPQ’). Dylid darllen y rhain ar y cyd â'n Hysbysiad preifatrwydd2.
Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i'r Gwasanaethau ar gyfer ceisiadau cynllunio a cheisiadau rheolaeth adeiladu a ddarperir yng Nghymru a Lloegr.
Os bydd unrhyw rai o delerau'r datganiad hwn yn gwrthdaro ag unrhyw delerau a ddarperir yn ein Proses Ad-dalu, telerau'r datganiad hwn fydd drechaf.
Noder y telerau allweddol canlynol sy'n berthnasol i'ch defnydd o'r Gwasanaethau.
- https://ecab.planningportal.co.uk/uploads/wales/Wales_PPQ_refund_process-cy.pdf
- https://www.planningportal.co.uk/wales/cymraeg/telerau-ac-amodau/hysbysiad-preifatrwydd