How are fees and payments for amendments handled when government changes fees?
When government changes planning application fees, our priority is to ensure the updated values are applied to try and minimise submissions where fees are invalid.
This means that there may be instances where the updated fee values are carried into applications that were originally submitted before the change, but opened for amendment after the updated values are in place.
Because amendments sometimes require an additional fee, the system will apply the updated fee values regardless of when the original application was submitted.
To ensure customers are not overcharged in this scenario, they will be able to select a specific ‘procedural’ exemption that will allow the amendment to be submitted without an additional payment.
The local authority will then inform the customer if any additional fee is due when the amendment is received and reviewed.
For applications originally submitted before a change in fees has taken place, while this issue persists, we would recommend not using the amendment functions on the Planning Portal to correct fee issues.
Fee change dates affecting amendments to applications
- Wales - Applications originally submitted before 1 December 2025 but amended after
- England - Applications originally submitted before 1 April 2025 but amended after
- England - Applications originally submitted before 6 December 2023 but amended after
This interim workaround enables us to update the fees in line with legislative timetables, but we are aware that it is not an ideal solution.
Sut ymdrinnir â ffioedd a thaliadau ar gyfer diwygiadau pan fydd y llywodraeth yn newid y ffioedd?
Pan fydd y llywodraeth yn newid y ffioedd ceisiadau cynllunio, ein blaenoriaeth yw sicrhau y caiff y gwerthoedd diweddaraf eu rhoi ar waith i geisio lleihau achosion o gyflwyno ceisiadau lle nad yw'r ffioedd yn ddilys.
Mae hyn yn golygu y gall fod enghreifftiau lle y mae'r gwerthoedd ffioedd diweddaraf yn berthnasol ar gyfer ceisiadau a gyflwynwyd yn wreiddiol cyn i'r newid ddod i rym, ond eu bod wedi'u hagor er mwyn eu haddasu ar ôl i'r gwerthoedd diweddaraf gael eu rhoi ar waith.
Gan fod ffi ychwanegol am wneud diwygiadau weithiau, bydd y system yn gweithredu'r gwerthoedd ffioedd diweddaraf ni waeth pryd y cyflwynwyd y cais gwreiddiol.
Er mwyn sicrhau na chodir gormod ar gwsmeriaid yn y senario hwn, byddant yn gallu dewis eithriad ‘gweithdrefnol’ penodol a fydd yn sicrhau y gellir cyflwyno'r diwygiad heb daliad ychwanegol.
Yna, bydd yr awdurdod lleol yn hysbysu'r cwsmer os bydd angen iddo dalu unrhyw ffi ychwanegol ar ôl iddo dderbyn ac adolygu'r diwygiad.
Ar gyfer ceisiadau a gyflwynwyd yn wreiddiol cyn i'r ffioedd newid, a thra bod y mater hwn yn parhau, byddem yn eich cynghori i beidio â defnyddio'r swyddogaethau diwygio ar y Porth Cynllunio er mwyn unioni'r materion o ran y ffioedd.
Dyddiadau newid ffioedd yn effeithio ar ddiwygiadau i geisiadau
- Cymru – Ceisiadau a gyflwynwyd yn wreiddiol cyn 1 Rhagfyr 2025 ond a ddiwygiwyd ar ôl hynny
- Lloegr – Ceisiadau a gyflwynwyd yn wreiddiol cyn 1 Ebrill 2025 ond a ddiwygiwyd ar ôl hynny
- Lloegr – Ceisiadau a gyflwynwyd yn wreiddiol cyn 6 Rhagfyr 2023 ond a ddiwygiwyd ar ôl hynny
Mae'r datrysiad dros dro hwn yn ein galluogi i ddiweddaru'r ffioedd yn unol â'r amserlenni deddfwriaethol, ond rydym yn ymwybodol nad yw'n sefyllfa ddelfrydol.