How do government application fee changes affect online application submissions?
There will be a cut-off at the end of business hours on the last working day prior to the fee changes taking effect for application submissions using the previous fee values.
The payment process (if required) for an application must be completed (payment received and cleared by Planning Portal) before submission can take place, so will need to have happened prior to this cut off.
This is in line with the legislation for submitting applications electronically1 which states that applications received after the close of business hours are taken to have been received the next working day (i.e. when the new fees have taken effect).
After this point, the system will be unavailable so we can carry out work to implement the changes, and it will no longer be possible to update an application, progress a payment, or make a submission.
Fee change dates and submission deadlines
- For the 1 December 2025 fee changes in Wales – Friday 28 November at 17:00
- For the 1 April 2025 fee changes in England – Monday 31 March at 17:00
- For the 6 December 2023 fee changes in England - Tuesday 5 December at 17:00
The point of submission can be checked on the system and in the ‘Submitted date’ field in the notification emails sent to the user and local authority.
Once the changes are made, and the system is made available, all application fee calculations will use the updated values set by government.
Any non-submitted applications will have their payment processes cancelled, and fee calculations reset so that users must recalculate using the updated fees and then pay for and submit the application.
Sut mae newidiadau'r llywodraeth i'r ffioedd gwneud cais yn effeithio ar y broses o gyflwyno cais ar-lein?
Ni fydd posibl cyflwyno ceisiadau ar ôl yr oriau gweithredol ar y diwrnod gwaith olaf cyn i'r newidiadau i'r ffioedd ar gyfer cyflwyno ceisiadau newid drwy ddefnyddio gwerth y ffioedd blaenorol.
Rhaid cwblhau'r broses dalu (yn ôl yr angen) ar gyfer ceisiadau (rhaid i'r Porth Cynllunio ei dderbyn a'i glirio) cyn y gellir eu cyflwyno, felly byddai angen cwblhau hyn cyn y terfyn amser hwn.
Mae hyn yn unol â'r ddeddfwriaeth ar gyfer cyflwyno ceisiadau yn electronig2 sy'n nodi yr ystyrir bod ceisiadau sy'n cyrraedd ar ôl yr oriau busnes wedi gwneud hynny y diwrnod gwaith canlynol (h.y. pan fydd y ffioedd newydd ar waith).
Ar ôl y pwynt hwn, ni fydd y system ar gael er mwyn i ni gwblhau gwaith i roi'r newidiadau ar waith, ac ni fydd yn bosibl diweddaru cais, prosesu taliad, na chyflwyno cais mwyach.
Dyddiadau newid ffioedd a therfynau amser cyflwyno ceisiadau
- Ar gyfer y newidiadau i'r ffioedd yng Nghymru 2025 – Dydd Gwener 28 Tachwedd am 17:00
- Ar gyfer y newidiadau i'r ffioedd yn Lloegr ar 1 Ebrill 2025 – Dydd Llun 31 Mawrth 17:00
- Ar gyfer y newidiadau i'r ffioedd yn Lloegr ar 6 Rhagfyr 2023 – Dydd Mawrth 5 Rhagfyr am 17:00
Gellir gwirio'r dyddiad cyflwyno ar y system ac yn y maes ‘Dyddiad cyflwyno’ yn y negeseuon e-byst a anfonwyd at y defnyddiwr a'r awdurdod lleol.
Unwaith y bydd y newidiadau wedi'u gwneud, ac y bydd y system ar gael, bydd y cyfrifiadau ffioedd ar gyfer yr holl geisiadau yn defnyddio'r gwerthoedd diweddaraf a roddir ar waith gan y llywodraeth.
Caiff prosesau talu unrhyw geisiadau nas cyflwynwyd eu canslo, a bydd y cyfrifiadau ffioedd yn ailosod er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn ailgyfrifo'r ffioedd drwy ddefnyddio'r ffioedd diweddaraf ac yn talu am y cais a'i gyflwyno.
- https://www.legislation.gov.uk/uksi/2015/595/article/2
- https://www.legislation.gov.uk/uksi/2015/595/article/2