Dylid defnyddio’r ffurflen hon ar gyfer cynigion i newid neu ehangu tŷ sengl, gan gynnwys gwaith o fewn terfyn/gardd tŷ. Dylid defnyddio’r ffurflen ar gyfer prosiectau megis:
- Estyniadau
- Ystafelloedd gwydr
- Gwaith addasu llofftydd
- Ffenestri dormer
- Garejis, cysgodfannau ceir a thai allan.
Sylwch nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer pob math o waith adeiladu gan ddeiliaid tai. Dan reolau datblygu a ganiateir gallwch gyflawni nifer o brosiectau adeiladu deiliaid tai, cyhyd â’u bod yn bodloni cyfyngiadau ac amodau penodol. Gallwch ddarganfod a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich prosiect adeiladu drwy fynd i Dŷ Rhyngweithiol y Porth Cynllunio.
Cael rhagor o wybodaeth am ganiatâd cynllunio deiliaid tai. [PDF]