Dylech ddefnyddio’r ffurflen gais hon i gyflwyno cais cynllunio manwl ar gyfer datblygiad, ac eithrio datblygiadau deiliaid tai. At ddibenion y ffurflen hon, mae datblygiad yn cynnwys gwaith adeiladu, gwaith peirianyddol neu waith arall ar dir, mewn tir, dros dir neu dan dir, neu unrhyw newid sylweddol i’r defnydd a wneir o adeiladau neu dir arall. Felly, dylid defnyddio’r ffurflen ar gyfer y canlynol:
- Unrhyw waith sy’n ymwneud â fflat
- Ceisiadau i newid nifer yr anheddau (troi adeilad yn fflatiau, adeiladu tŷ ar wahân yn yr ardd)
- Newid defnydd rhan o’r eiddo neu’r eiddo cyfan i ddefnydd dibreswyl (gan gynnwys busnes)
- Unrhyw beth y tu allan i ardd yr eiddo (gan gynnwys stablau os ydynt mewn cae bach ar wahân).