Dylid defnyddio’r ffurflen hon ar gyfer cynigion i arddangos hysbyseb neu arwydd y mae angen caniatâd cynllunio ar ei chyfer/ar ei gyfer. Mae’r term ‘hysbyseb’ yn berthnasol i ystod eang iawn o hysbysebion ac arwyddion, gan gynnwys:
- Posteri a hysbysiadau
- Placardiau a byrddau hysbysebu
- Arwyddion wynebfwrdd ac arwyddion sy’n ymestyn allan
- Arwyddion ar bolion a chanopïau
- Modelau a dyfeisiau
- Arwyddion blaenrybuddio a chyfeirio
- Byrddau gwerthwyr tai
- Hysbysebion ar falŵns sy’n llonydd (nid balŵns sy’n hedfan)
- Hysbysebion ar faneri
- Arwyddion prisiau a byrddau arddangos prisiau
- Arwyddion traffig
- Arwyddion sy’n dangos enwau trefi a phentrefi.
Cael rhagor o wybodaeth am ganiatâd i arddangos hysbyseb. [PDF]