Cyflwyno cais cynllunio ar-lein
Dogfennau Ategol - Atodi dogfennaeth ategol
Mae'r rhan fwyaf o geisiadau yn gofyn am fwy o wybodaeth na'r hyn y gellir ei rhoi ar y ffurflen gais yn unig. Caiff y wybodaeth ychwanegol hon ei darparu fel dogfennau ategol ac mae ei hangen er mwyn i awdurdodau cynllunio lleol (ACLlau) allu gwerthuso'r cynnig yn llawn. Bydd y dogfennau sydd eu hangen yn amrywio yn dibynnu ar y math o gais a'r ACLl rydych yn gwneud cais iddo.
Pan fyddwch yn cyrraedd yr adran lanlwytho ffeiliau, lanlwythwch eich ffeiliau yn gyntaf. Yna bydd angen i chi ddewis math o ddogfen ac ychwanegu disgrifiad (os oes angen) ar gyfer pob ffeil, er mwyn i'r system allu gwirio bod eich cais yn bodloni'r gofynion. Gallwch hefyd lanlwytho dogfennau ategol ychwanegol os byddant yn helpu i esbonio eich cynnig.
Gwyliwch y fideo cam wrth gam i ddysgu am lanlwytho dogfennau ategol. (yn Saesneg)
Dogfennau ategol – mathau, nodau a therfynau
Mathau o ffeiliau
Caiff y mathau canlynol o ffeiliau eu cefnogi:
- Delweddau: .jpg, .jpeg, .png, .gif, .bmp, .tif, .tiff
- Dogfennau: .pdf, .doc, .docx, .rtf, .txt
- Taenlenni: .xls, .xlsx, .csv
- Fideos: .mp4, .mov, .avi, .mpeg, .mpg, .wmv
- CAD/GIS: .plt, .geojson, .gml
Os hoffech gyflwyno dogfennaeth ategol mewn unrhyw ffordd arall, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r mathau o ffeiliau a restrir uchod lle bynnag y bo'n bosibl. Os hoffech ddefnyddio unrhyw fath arall o ffeil, dylech gysylltu â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) cyn cyflwyno eich cais oherwydd efallai na fydd yn gallu ei dderbyn.
Maint y ffeil – Ni all systemau llawer o ACLlau dderbyn ffeiliau sy'n fwy na 10MB – os oes gennych ffeil sy'n fwy na hyn, ni fyddwch yn gallu ei lanlwytho. Os bydd eich dogfen yn fwy na 10MB, darllenwch ein canllawiau ar sut i leihau maint ffeiliau1. (yn Saesneg)
Enw'r ffeil
Caiff y nodau canlynol eu cefnogi o fewn enw ffeil:
- Y llythrennau A i Z (priflythrennau a llythrennau bach),
- Y rhifau 0 i 9:Nodau:
- (bwlch)
- - (cysylltnod)
- _ (tanlinell)
- ( (agor cromfach)
- ) (cau cromfach)
- . (atalnod llawn)
- & (ampersand)
- , (coma)
- [ (agor cromfach sgwâr)
- ] (cau cromfach sgwâr)
- # (clwyd/symbol rhif)
Enghreifftiau a ganiateir:
- Cynllunysafle.pdf
- Gweddluniau presennol Drwg 1345-2.tif
- cynllun-llawr-cyntaf_arfaethedig_drwg 1346-1.plt
- RHANNAU AA BB (DRWG 234_1 DIW 2).PDF
- Manylion-ffrâm-pren_cyntedd (179098_2) (Datganiad treftadaeth).doc
Os na all yr ACLl lawrlwytho neu weld ffeil atodedig, efallai y bydd yn gofyn i chi ei darparu eto ar ffurf ffeil y gall ei defnyddio, neu'n gofyn i chi gyflwyno copi caled o'r wybodaeth.
Cwestiynau cyffredin
- Rwyf am anfon ffeiliau drwy'r post; oes angen i mi lanlwytho unrhyw wybodaeth yn yr adran dogfennau ategol o hyd?
- Pa fanylion a manylebau sydd ar gael ar gyfer dogfennau ategol?
- Sut y gallaf lanlwytho math o ddogfen nad yw wedi'i rhestru?
Darllenwch yr holl gwestiynau cyffredin am geisiadau cynllunio2
- https://ecab.planningportal.co.uk/uploads/1app/1app_tips_reduce-file-size.pdf
- https://www.planningportal.co.uk/wales/cymraeg/help/cwestiynau-cyffredin/ceisiadau-cynllunio