Cyflwyno cais cynllunio ar-lein
Gwirio, Talu a Chyflwyno – Cwblhau'r cais ar-lein
Gwirio
Mae'r system yn gwirio'n awtomatig bod y cais yn barod i'w gyflwyno. Bydd y bar cynnydd gwyrdd a'r eicon tic glas yn nodi pan fydd pob adran wedi'i chwblhau. Pan fydd pob adran wedi'i chwblhau ac y bydd y cais yn barod i'w gyflwyno, daw'r botwm 'Datgan a chyflwyno' yn weithredol (bydd modd clicio arno).
Talu a Chyflwyno
Ar ôl i chi gwblhau'r datganiad a'r adran talu, bydd clicio ar y botwm ‘Talu a Chyflwyno’ yn dechrau'r broses dalu. Bydd statws y cais yn newid i ‘Yn aros am daliad’. Ar ôl cadarnhau'r taliad, caiff y cais ei gyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol (ACLl), a byddant yn gallu ei lawrlwytho a'i ddilysu.
Os na fydd ffi yn berthnasol i'ch cais, gallwch gwblhau'r datganiad a chyflwyno'r cais yn uniongyrchol i'r ACLl.
Nodwch: Dim ond i un ACLl y bydd y system yn cyflwyno cais. Os yw eich safle o fewn ffin mwy nag un ACLl, dylech gysylltu â ni1 pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais.
Deall sut mae'r tâl gwasanaeth yn cael ei gyfrifo
Mae mathau o geisiadau o fewn tri fand:
- Band 1 – £99 yn cynnwys TAW ar gyfer mathau o geisiadau llai cymhleth
- Band 2 – £149 yn cynnwys TAW ar gyfer mathau o geisiadau gyda gofynion mwy cymhleth a gallueddau mwy llwyfan
- Band 0 – £0 ar gyfer y mathau cais sy’n gymwys, gan gynnwys eithriadau, gwaith coed a chaniatâd adeilad rhestru.
Mae'r tâl gwasanaeth yn berthnasol i geisiadau gyda ffi gynllunio o dros £125
- https://www.planningportal.co.uk/wales/cymraeg/help