Skip to content

Gwneud cais rheolaeth adeiladu ar-lein

Arfer gorau wrth wneud cais rheolaeth adeiladu ar-lein

  • Cliriwch storfa (cache) eich porwr cyn mewngofnodi – bydd hyn yn sicrhau bod y system yn llwytho'r wybodaeth i mewn i'ch cais yn gywir ac nad oes unrhyw hen wybodaeth i'w gweld. 
  • Dechreuwch sesiwn newydd drwy fynd i https://cymraeg.planningportal.wales/app/landing-page1 a mewngofnodi. Byddwch yn defnyddio'r un manylion mewngofnodi i gael mynediad i geisiadau cynllunio a cheisiadau rheolaeth adeiladu.
  • Enwch eich cais gan ddefnyddio cyfeiriad y safle – bydd hyn yn eich galluogi i'w adnabod yn hawdd yn nes ymlaen a bydd yn helpu'r corff rheolaeth adeiladu i adnabod eich cais pan fydd yn ei gael.
  • Cwblhewch y ffurflenni gan ddefnyddio priflythrennau a llythrennau bach – ysgrifennwch yn ôl yr arfer gan ddefnyddio priflythyren ar ddechrau pob brawddeg – er mwyn helpu'r corff rheolaeth adeiladu i'w prosesu.
  • Storio eich cais unwaith y bydd y corff rheolaeth adeiladu wedi'i gael. Byddwch yn gwybod bod yr awdurdod rheolaeth cynllunio wedi cael y cais gan y bydd ei statws yn newid o ‘cyflwynwyd’ i ‘derbyniwyd’.


Cyfathrebu electronig

Rydym yn annog defnyddwyr i gynnwys eu cyfeiriad e-bost ar y ffurflen gais bob tro, fel y gall cyrff rheolaeth adeiladu gyfathrebu'n electronig â nhw drwy gydol y broses.

Nodwch: Pan gyflwynir cais ar-lein, tybir bod yr ymgeisydd wedi cytuno â'r canlynol:

  • i'r corff rheolaeth adeiladu ddefnyddio gohebiaeth o'r fath at ddibenion y cais;
  • mai cyfeiriad yr ymgeisydd at y dibenion hynny yw'r cyfeiriad a roddir gyda'r cais;
  • y bydd y cytundeb hwn yn parhau nes i'r ymgeisydd hysbysu'r corff rheolaeth adeiladu yn ysgrifenedig i roi'r gorau i ddefnyddio gohebiaeth electronig.
  1. https://cymraeg.planningportal.wales/app/landing-page

The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.

The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.