Gwneud cais rheolaeth adeiladu ar-lein
Ffioedd – Gofyn am ffi gwneud cais a'i chadarnhau
Bydd angen i chi a'r corff rheolaeth adeiladu rydych yn cyflwyno cais cynllunio iddo gytuno ar ffi, os na chytunwyd ar swm ffi eisoes, gallwch ofyn am un drwy bromptiau'r cais.
Rheoli ffi
O'r sgrin trosolwg o'r cais, dewsiwch ‘Rheoli'r ffi’, a fydd yn gofyn i chi ‘oes gennych ffi wedi'i chadarnhau?’ Os ydych eisoes wedi cytuno ar ffi â'r corff rheolaeth adeiladu dewsiwch 'oes', gallwch nodi'r ffi y cytunwyd arni a rhif cyfeirnod y corff rheolaeth adeiladu os oes gennych un, a symud ymlaen i'r datganiad.
Gofyn am ffi
Os nad ydych eisoes wedi cytuno ar ffi â chorff rheolaeth adeiladu, bydd angen i chi ofyn am un – O dan 'Rheoli ffi' yn y trosolwg o'r cais, dewiswch 'Nac oes' i'r cwestiwn ‘oes gennych ffi wedi'i chadarnhau?’ Parhewch drwy ateb y cwestiynau sy'n ymwneud â'ch cais. Bydd hyn yn galluogi'r corff rheolaeth adeiladu i bennu ffi, bydd yn cael hysbysiad eich bod wedi gofyn am ffi, y gall ei chyfrifo a'i nodi ar ei ochr ef i'r system. Byddwch yn cael neges e-bost yn eich hysbysu bod ffi wedi'i darparu a chaiff y swm ei ddangos ar y sgrin yn y trosolwg o'ch cais.
Gallwch ond gofyn am ffi gan un corff rheolaeth adeiladu, a gaiff ei bennu yn ystod y broses o greu'r cais - bydd y corff rheolaeth adeiladu hwnnw'n cael eich cais am ffi.
Er mwyn sicrhau y gall y corff rheolaeth adeiladu weld y dogfennau a ychwanegwch i'w helpu i gynnig ffi, lanlwythwch ffeiliau PDF, JPG/JPEG a PNG yn unig.
Bydd modd o hyd i'r corff rheolaeth adeiladu weld mathau eraill o ffeiliau a gyflwynir gyda'ch cais, ond nid nes i'r cais gael ei gyflwyno.
Cadarnhau ffi
Bydd angen i chi gadarnhau'r ffi er mwyn parhau i dalu a chyflwyno'r cais. Yn y trosolwg o'r cais, dewiswch ‘Cadarnhau ffi’ lle y gallwch weld y swm a dadansoddiad o'r ffi cyn cadarnhau. Os bydd y corff rheolaeth adeiladu wedi nodi amodau sy'n ymwneud â'r ffi gwneud cais a ddarparwyd, cânt eu dangos yno. Dewiswch ‘Cadarnhau ffi’ er mwyn parhau i gyflwyno a thalu.
Nodwch: y corff rheolaeth adeiladu perthnasol yn unig sy'n gyfrifol am benderfynu a yw'r ffi yn gywir. Ar ôl i chi gyflwyno'r cais a thalu amdano, bydd yn gwirio'r ffi fel rhan o'r broses o ddilysu'r cais a bydd yn cadarnhau a yw'r ffi yn gywir.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth
Os na all y corff rheolaeth adeiladu ddarparu ffi a bod angen rhagor o wybodaeth arno, bydd yn esbonio hyn yn ei ymateb i chi. Cewch eich hysbysu drwy e-bost a rhoddir gwybod i chi am y camau nesaf drwy glicio ar ‘Gweld cyfarwyddiadau’ yn yr adran rheoli ffi o'r trosolwg o'r cais. Bydd hyn yn dangos y sylwadau a ddarparwyd gan y corff rheolaeth adeiladu i roi arweiniad i chi ar beth i'w wneud nesaf.
Newidiadau i gais am ffi
Ni allwch ganslo cais am ffi ar ôl iddo gael ei anfon i'r corff rheolaeth adeiladu, ond nid oes rheidrwydd arnoch i gwblhau na chyflwyno'r cais os neu pryd y bydd y corff rheolaeth adeiladu yn darparu ffi.
Os nad yw'r corff rheolaeth adeiladu wedi darparu ffi eto, gallwch ddiwygio'r dogfennau ategol a bydd y corff rheolaeth adeiladu yn gweld fersiynau ‘byw’, ond ni ellir newid unrhyw wybodaeth arall yn ymwneud â chais am ffi.
Eithriadau rhag ffioedd
Mae'r opsiynau hyn yn eich galluogi i hawlio unrhyw eithriad perthnasol rhag talu ffi (e.e. os bydd y gwaith arfaethedig ar gyfer darparu mynediad i bobl anabl i adeilad yn unig).
Bydd yn ofynnol i chi ddangos tystiolaeth o'ch cymhwystra i gael unrhyw eithriad a hawlir.
Caiff dilysrwydd unrhyw hawliad ei wirio a'i gadarnhau gan y corff rheolaeth adeiladu unwaith y bydd yn cael y cais. Os caiff ei ystyried yn annilys, bydd y ffi gywir yn ddyledus. Bydd hyn yn achosi oedi wrth brosesu'r cais.
Mae tâl gwasanaeth am gyflwyno ceisiadau rheolaeth adeiladu gan ddefnyddio ein gwasanaeth, oni fydd y cais wedi'i eithrio rhag ffi am resymau dilys y gellir eu dangos. Y tâl gwasanaeth yw £21 +TAW.