Skip to content

Gwneud cais rheolaeth adeiladu ar-lein

Creu cais rheolaeth adeiladu newydd

Ar ôl i chi fewngofnodi, byddwch yn gweld sgrin groeso, sy'n dangos y dull o gael mynediad i geisiadau cynllunio a cheisiadau rheolaeth adeiladu. O geisiadau rheolaeth adeiladu, dewiswch naill ai ‘Dechrau cais newydd’, neu ‘rheoli ceisiadau’ i weld cais presennol. Ar y sgrin nesaf, mae switsh defnyddiol i symud rhwng y naill wasanaeth a'r llall ar ôl i'r rhestr o geisiadau gael ei dangos.

Gallwch nawr greu cais rheolaeth adeiladu newydd. Mae pob cais yn dechrau â phum adran sylfaenol i'w cwblhau, sef:

  1. Enw – Enw ar gyfer eich cais, rydym yn awgrymu y dylech ddefnyddio cyfeiriad y safle
  2. Cysylltu cais – Gallwch ddewis cysylltu eich cais rheolaeth adeiladu â chais cynllunio rydych wedi'i gyflwyno drwy Planning Portal os oes gennych un, bydd hyn eich galluogi i rannu manylion enw'r ymgeisydd, cyfeiriad y safle a'r cynllun lleoliad, a allai fod yn ddefnyddiol er mwyn i chi gyfeirio atynt yn ddiweddarach.
  3. Lleoliad – Nodwch god post y safle a dewiswch y cyfeiriad, bydd hyn yn ein galluogi i nodi lleoliad y gwaith y mae'r cais yn berthnasol iddo. Ni ellir newid y cyfeiriad rydych yn ei ychwanegu yma yn nes ymlaen. Os nad oes gennych god post, mae opsiynau amgen defnyddiol ar ffurf cyfeirnodau grid y gellir eu defnyddio yn ei le.
  4. Math – Y math o gais sydd ei angen arnoch. Mae tri math:

    Cynlluniau llawn: Hwn yw'r opsiwn mwyaf trylwyr. Gallwch ddisgwyl cael penderfyniad o fewn 5 wythnos, neu 2 fis gyda'ch cydsyniad. Cewch dystysgrif cwblhau o fewn 8 wythnos i gwblhau'r gwaith adeiladu ar yr amod ei fod yn cydymffurfio â'r rheoliadau.

    Hysbysiad adeiladu: Dim ond ar gyfer prosiectau llai o faint y mae'r math hwn o gais. Gallwch ddechrau ar y gwaith 2 ddiwrnod ar ôl i'ch hysbysiad gael ei gyflwyno i'ch corff rheolaeth adeiladu. Ni chewch gymeradwyaeth ffurfiol fel sy'n digwydd yn achos cynlluniau llawn.

    Tystysgrif unioni : Gallwch ond gwneud cais i ‘unioni’ – sef cymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer gwaith a wnaed eisoes heb gydsyniad – gan gorff rheolaeth adeiladu lleol yn unig.
  5. Corff rheolaeth adeiladu a neilltuwyd – Yn ddiofyn, caiff yr awdurdod sy'n lleol i chi ei neilltuo ar sail y cod post a nodwyd gennych ar gyfer cyfeiriad y safle.  Gallwch ddewis gwneud cais naill ai i'r awdurdod lleol neu gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu sy'n derbyn ceisiadau gennym. Er mwyn gwneud cais i gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn lle'r awdurdod lleol, dewiswch ‘Gwneud cais i gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu’.

Gall defnyddwyr proffesiynol sydd â chytundebau partneriaeth ar waith ddewis cyflwyno eu ceisiadau (ac eithrio tystysgrifau unioni) i'w hawdurdod partner.


Ar ôl i chi gadarnhau'r manylion sylfaenol hyn, caiff eich cais newydd ei gadw fel  ‘Drafft’ yn eich adran ‘Ceisiadau’ a bydd yn barod i chi ddechrau ei gwblhau neu i chi ddychwelyd i weithio arno'n ddiweddarach.

Gellir cyrchu'r rhestr 'Fy ngheisiadau' drwy fewngofnodi ac edrych ar eich ceisiadau ar y sgrin 'Ceisiadau'.


    The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.

    The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.