Skip to content

Gwneud cais rheolaeth adeiladu ar-lein

Gwirio, talu a chyflwyno eich cais

Gwirio cais

Mae'r system yn gwirio'n awtomatig bod y cais wedi'i gwblhau a'i fod yn barod i'w gyflwyno. Bydd y bar cynnydd gwyrdd a'r eicon tic glas yn nodi pan fydd pob adran wedi'i chwblhau. Pan fydd pob adran wedi'i chwblhau ac y bydd y cais yn barod i'w gyflwyno, daw'r botwm 'Datgan a chyflwyno' yn weithredol (bydd modd clicio arno).


Talu a chyflwyno

Ar ôl i chi gwblhau'r datganiad a'r adran talu, bydd clicio ar y botwm ‘Talu a Chyflwyno’ yn dechrau'r broses dalu. Bydd statws y cais yn newid i ‘Yn aros am daliad’. Ar ôl cadarnhau'r taliad, caiff y cais ei gyflwyno i'r corff rheolaeth adeiladu, a fydd yn gallu ei lawrlwytho a'i ddilysu.

Os na fydd ffi yn berthnasol i'ch cais, gallwch gwblhau'r datganiad a chyflwyno'r cais yn uniongyrchol i'r corff rheolaeth adeiladu.


Opsiynau talu

Mae'r dulliau talu sydd ar gael fel a ganlyn:

  • Talu ar-lein gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd – Ni ellir gwneud taliad o fwy na £1,000 gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd. Os bydd y cyfanswm yn fwy na hyn, bydd angen i chi ddewis dull talu gwahanol. Caiff y cais ei gyflwyno i'r corff rheolaeth adeiladu ar unwaith ar ôl i'r taliad gael ei gadarnhau.
  • Trosglwyddiad banc (bancio ar-lein) – Gallwch dalu drwy drosglwyddiad banc gan ddefnyddio BACS neu Daliadau Cyflymach. Caiff y cais ei gyflwyno un diwrnod gwaith ar ôl i daliad â chyfeirnod dilys ddod i law. Fel arfer, bydd Taliadau Cyflymach yn ein cyrraedd yr un diwrnod.


Gallwch enwebu person arall i dalu am y cais gan ddefnyddio'r un dulliau talu. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin dalu i ddechrau'r broses enwebu ar gyfer taliad. Cewch eich promptio i nodi enw a chyfeiriad e-bost yr enwebai, a nodiadau dewisol. Unwaith y byddant wedi'u cadarnhau, caiff yr enwebai neges e-bost â chyfarwyddiadau a dolen yn dweud wrtho am dalu am y cais hwnnw. Caiff y cais ei gyflwyno ar ôl i'r taliad gael ei gadarnhau. 

Dylech hysbysu'r enwebai fel y gall ddisgwyl cael cais am daliad. Sicrhewch fod yr enwebai yn defnyddio rhif cyfeirnod y taliad fel cyfeirnod wrth wneud unrhyw daliad.

    The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.

    The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.