Skip to content

Gwneud cais rheolaeth adeiladu ar-lein

Beth fydd yn digwydd ar ôl cyflwyno'r cais?

Ar ôl i'r corff rheolaeth adeiladu dderbyn eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael e-bost i gadarnhau hynny gan Planning Portal. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys rhif cyfeirnod unigryw, a dylech ei ddyfynnu mewn unrhyw ohebiaeth â'r corff rheolaeth adeiladu. Mae eich rhif cyfeirnod hefyd ar gael o'r 'Trosolwg' o'ch cais rheolaeth adeiladu, a'r dudalen ‘Ceisiadau’.


Nodwch: Nid yw'r e-bost hwn gan Planning Portal yn gyfystyr â chadarnhad ffurfiol bod y corff rheolaeth adeiladu wedi derbyn eich cyflwyniad electronig.

Ar ôl i'r corff rheolaeth adeiladu gael eich cais, y dogfennau ategol a'r taliad, bydd yn ei gofrestru a'i ddilysu fel rhan o'i brosesau a'i amserlenni llif gwaith arferol. Os bydd angen i'r corff rheolaeth adeiladu gael rhagor o wybodaeth, neu os bydd ganddo unrhyw ymholiadau, bydd yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Am ragor o wybodaeth am hynt eich cais ar-lein, cysylltwch â'ch corff rheolaeth adeiladu gan ddyfynnu eich rhif cyfeirnod.


    The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.

    The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.