Skip to content

Gwneud cais rheolaeth adeiladu ar-lein

Dogfennau ategol – lanlwytho ffeiliau

Mae'r rhan fwyaf o geisiadau yn gofyn am fwy o wybodaeth na'r hyn y gellir ei rhoi ar y ffurflen gais yn unig. Megis mapiau o leoliadau safleoedd.

Nodwch: mae rhagor o wybodaeth ar gael am y mathau o ddogfennau y gellir eu defnyddio i ofyn am ffi gan gorff rheolaeth adeiladu. Rhagor o wybodaeth1.

Cyfyngiadau dogfennau ategol

Mathau o ffeiliau – Caiff y mathau canlynol o ffeiliau eu cefnogi:

  • Adobe PDF - .pdf
  • Delweddau - .bmp, .gif, .jpg / .jpeg, .png, .tif
  • CAD (HPGL) - .plt
  • Microsoft Office - .doc / .docx, .xls / .xlsx
  • Testun - .rtf, .txt
  • Fideo – .avi, .mov, .mp4 .mpg / .mpeg, .wmv
  • GML - .gml

Os hoffech gyflwyno dogfennaeth ategol mewn unrhyw ffordd arall, rydym yn argymell y dylech ddefnyddio'r mathau o ffeiliau a restrir uchod lle bynnag y bo'n bosibl. Os hoffech ddefnyddio unrhyw fath arall o ffeil, dylech gysylltu â'ch corff rheolaeth adeiladu cyn cyflwyno eich cais oherwydd efallai na fydd yn gallu ei dderbyn.


Enw'r ffeil – Caiff y nodau canlynol eu cefnogi o fewn enw ffeil:

  • Y llythrennau A i Z (priflythrennau a llythrennau bach),
  • Y rhifau 0 i 9
  • Y nodau:
    • " " (bwlch)
    • "-" (llinell doriad)
    • "_" (tanlinell)
    • "(" (agor cromfach)
    • ")" (cau cromfach)
    • "." (atalnod llawn) – Nodwch mai dim ond i wahanu enw'r ffeil a'r math o ffeil y dylid defnyddio atalnodau llawn (er enghraifft: Siteplan.pdf NID Site.plan.pdf)

Enghreifftiau a ganiateir:

  • Cynllunysafle.pdf
  • Gweddluniau presennol Drwg 1345-2.tif
  • cynllun-llawr-cyntaf_arfaethedig_drwg 1346-1.plt
  • RHANNAU AA BB (DRWG 234_1 DIW 2).PDF
  • Manylion-ffrâm-pren_cyntedd (179098_2) (Datganiad treftadaeth).doc

Os na all y corff rheolaeth adeiladu lawrlwytho neu weld ffeil atodedig, efallai y bydd yn gofyn i chi ei darparu eto ar ffurf ffeil y gall ei defnyddio, neu'n gofyn i chi gyflwyno copi caled o'r wybodaeth.

Cofiwch: Os ydych yn gofyn am ffi, rydym yn argymell y dylech lanlwytho cynllun arfaethedig a chynllun presennol neu gynllun safle o leiaf. Efallai na fydd y corff rheolaeth adeiladu yn gallu rhoi ffi heb gyfeirio at ddogfen(nau) ategol sy'n dangos y maint.

Mae'n rhaid i'r dogfennau rydych yn eu hychwanegu i gefnogi cais am ffi fod ar ffurf ffeil PDF, JPG/JPEG, neu PNG. Ymdrinnir â hyn yn fanylach yn y Canllawiau ar ffioedd2.


Atodi cynlluniau a lluniadau

Argymhellir y dylai pob cynllun a lluniad gynnwys bar graddfa, dimensiynau allweddol, y cyfeiriad i'r gogledd, maint y papur gwreiddiol a'r raddfa (e.e. 1:200 ar A3) wedi'u nodi'n glir arno.

Er nad yw'n orfodol, drwy gyflwyno cynlluniau a lluniadau ar A3, bydd y corff rheolaeth adeiladu yn gallu prosesu eich cais yn fwy effeithlon.

Dylech ystyried gosod llai o weddluniau ar bapur o faint llai, hyd yn oed os bydd hyn yn golygu cyflwyno mwy o ddogfennau. Byddem hefyd yn argymell ond defnyddio lliw pan fo'n rhaid yn unig oherwydd gall hyn gynyddu maint ffeiliau'n sylweddol.


Arfer gorau o ran dogfennau ategol

Gallwch helpu'r corff rheoli adeiladu sy'n cael eich cais ei brosesu'n fwy effeithlon mewn sawl ffordd:

  • Mae Fformat Dogfen Gludadwy (PDF) yn fformat ffeil agored dibynadwy, yr ymddiriedir ynddo, a ddefnyddir i drosi bron unrhyw ddogfen yn fformat hawdd ei ddarllen, sy'n safonol i'r diwydiant. Drwy drosi neu sganio ffeiliau lluniadau gwreiddiol yn fformat PDF, gellir lleihau maint y ffeil wreiddiol, tra'n ei chadw'n gyfan a diogelu gwybodaeth y ffeil wreiddiol.
  • Sicrhewch fod gogwydd y ffeiliau yn gywir wrth eu lanlwytho. Dylai'r ffeil gael ei chadw yn y gogwydd y dylid edrych arni ynddo, hynny yw tirlun neu bortread.
  • Lle bynnag y bo modd, ceisiwch fformatio eich cynlluniau a'ch gweddluniau ar bapur A3 (neu ewch ati i leihau'r gwreiddiol i faint A3). Bydd hyn yn lleihau'r amser a'r costau argraffu i'r corff rheolaeth adeiladu lle mae angen argraffu copïau at ddiben ymgynghori.
  • Sicrhewch eich bod bob amser yn nodi'r maint gwreiddiol a'r raddfa lluniadu yn glir, gan gynnwys bar graddfa a dimensiynau allweddol a fydd yn golygu y gall eich lluniad gael ei osod wrth raddfa yn gywir ar y sgrin mewn unrhyw faint.
  • Os byddwch yn lleihau eich lluniad gwreiddiol i faint A3 er mwyn ei gyflwyno, sicrhewch eich bod yn nodi'r maint gwreiddiol a'r raddfa, yn ogystal â'r maint y cafodd ei leihau iddo (e.e. Graddfa 1:500 maint gwreiddiol A2, wedi'i leihau i A3).  Hefyd sicrhewch fod modd darllen anodiadau a thestun arall ar ôl ei leihau.
  • Wrth ddefnyddio fformatau ffeiliau cywasgedig (e.e. jpg, pdf, avi, wmv) dylech sicrhau bod y ddogfen o safon ac eglurdeb digon uchel, neu efallai y bydd gofyn i chi ei hailgyflwyno.
  • Peidiwch â defnyddio exe, zip na fformatau archif eraill gan fod meddalwedd diogelwch yn aml yn trin y rhain fel fformatau risg uchel, ac efallai na chaiff eich dogfennaeth ei throsglwyddo i'r corff rheolaeth adeiladu yn gywir.

Nodwch: Ni all y corff rheolaeth adeiladu gofrestru cais nes i'r holl ddogfennaeth ategol gael ei chyflwyno.

Felly, rydym yn argymell y dylid cyflwyno popeth ar-lein lle y bo'n bosibl, yn hytrach nag anfon rhywfaint o wybodaeth yn y post, er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth gofrestru eich cais.


  1. https://www.planningportal.co.uk/wales/cymraeg/help/cwestiynau-cyffredin/ceisiadau-rheoli-adeiladu
  2. https://www.planningportal.co.uk/wales/cymraeg/help/cwestiynau-cyffredin

The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.

The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.