Gwneud cais rheolaeth adeiladu ar-lein
Cymorth ac arweiniad
Cwestiynau penodol, talu ar-lein ac ar ôl cyflwyno'r cais
Os bydd gennych gwestiwn penodol am eich cais (er enghraifft, ymholiad am y ffioedd, gofynion ar gyfer dogfennau ategol neu atebion i gwestiynau penodol) dylech gysylltu â'r corff rheolaeth adeiladu.
Ni all Planning Portal ateb cwestiynau o'r fath gan mai'r corff rheolaeth adeiladu sy'n gyfrifol am wneud hynny.
Unwaith y caiff y cais ei gyflwyno, gall y corff rheolaeth adeiladu helpu gydag unrhyw ymholiadau.