Gwneud cais rheolaeth adeiladu ar-lein
Cwestiynau – cwblhau'r ffurflen ar-lein
Mae eich cais yn cynnwys cyfres o gwestiynau y mae'n rhaid eu hateb er mwyn galluogi'r corff rheolaeth adeiladu i benderfynu ar eich cais. Bydd y rhestr o gwestiynau ar y sgrin trosolwg yn dangos faint o gwestiynau o bob adran sydd wedi'u cwblhau.
Gallwch symud drwy'r rhestr o gwestiynau ac ateb y gwahanol adrannau mewn unrhyw drefn. Caiff adrannau eu marcio fel adrannau wedi'u cwblhau pan fydd pob cwestiwn yn yr adran wedi'i ateb.
Mae'r rhan fwyaf o adrannau yn cynnwys testun i'ch helpu i gwblhau'r cwestiynau. Gallwch weld y testun hwn drwy glicio ar yr eicon '?' wrth ymyl teitl adran y cwestiwn.
Ar ôl i chi nodi'r manylion, cliciwch ar y botwm 'nesaf'. Bydd hyn yn cadw'r manylion a nodwyd hyd yn hyn ac yn eich tywys i'r adran nesaf os byddwch wedi cwblhau'r adran gyfredol. Fel arall, bydd yn dangos i chi beth sydd angen i chi ei gwblhau o hyd. Gallwch hefyd glicio ar 'Cadw a chau' er mwyn gadael adran. Bydd hyn yn sicrhau y caiff y manylion a nodwyd gennych eu cadw hyd nes y byddwch yn dychwelyd yn ddiweddarach.
Os bydd unrhyw adrannau yn anghyflawn o hyd, bydd angen i chi ddychwelyd at yr adran honno eto drwy glicio ar ei dolen a sicrhau eich bod wedi ateb pob cwestiwn yn gywir.
Os na fyddwch yn credu bod y cwestiwn a ofynnir yn berthnasol i'ch cais, dylech nodi 'ddim yn gymwys' yn y maes testun perthnasol. Fodd bynnag, dylech gysylltu â'r corff rheolaeth adeiladu er mwyn sicrhau nad oes angen i chi ateb y cwestiwn hwn er mwyn iddo ddilysu eich cais, neu os bydd gennych ymholiadau am yr hyn a ofynnir.
Dylech hefyd gysylltu â'ch corff rheolaeth adeiladu os oes gennych unrhyw ymholiadau cynllunio am eich cais. Mae'n bosibl mai eich awdurdod lleol neu gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yw hwn.